Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

athraw a'i gyd-fyfyrwyr, pan yn yr athrofa, yn ei ystyried yn un o'r ysgolheigion blaenaf yn y lle; bu mewn rhyw ystyr er pan yn blentyn yn ferthyr er mwyn cyrhaeddyd dysgeidiaeth a gwybodaeth. Yr oedd ynddo ragoriaeth, nid yn unig fel ysgolhaig, ond hefyd fel dyn da, ac o grefydd amlwg; cyfaill didwyll, Cristion dysglaer, a gweinidog cymhwys y Testament Newydd. Mae yn bosibl i ddyn fod yn ysgolhaig da, ac o alluoedd meddwl cryf, ac eto yn ddyn gwael diegwyddor; ond nid felly y brawd anwyl hwn. Yr oedd ef yn ddyn da mewn gwirionedd; yn gyfaill yn ystyr helaethaf y gair. Yr oedd yn un y gallesid meddwl ar y dechreu nad oedd o duedd gyfeillgar, o herwydd nid yn fuan y ceid ef allan i ymddyddan ar unrhyw bwnc, yn enwedig yn mhlith dyeithriaid; yr hyn hwyrach oedd yn peri i'r rhai nad oedd yn ei adwaen i feddwl ei fod o dymher sarug, pan mewn gwirionedd nid oedd dim yn mhellach oddiwrtho na hyny. Cerid ef fwyaf gan y rhai oedd yn ei adwaen ef oreu; ac yr oedd yn anmhosibl i'r rhai oedd yn ei adwaen lai na'i garu. Yr oedd cywirdeb ei egwyddorion yn ddarllenadwy yn ei holl ymddygiadau, a santeiddrwydd ei fuchedd yn peri i bawb o'i amgylch ei barchu yn fawr iawn.

Nid oedd dim ynddo â thuedd at ddyrchafu ei hun; dyn mawr, bach ydoedd y brawd anwyl hwn. Mae hiraeth mawr ar ei ol yn ardal Penclawdd hyd y dydd heddyw. Yr oedd yn ddyn i Benclawdd-yr oedd ei enaid wrth ei fodd gyda phobl ei ofal. Ond er galar i laweroedd, "efe a fu farw." Aeth i ogoniant yn 31 oed, wedi bod yn pregethu deuddeg mlynedd. O oes fer. O fedd creulon, ti lyncaist i fyny un o'r gweinidogion ieuainc mwyaf gobeithiol yn Neheudir Cymru.