Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MR. DANIEL BOWEN, RHYDARGAEAU.

BRAWD ydoedd D. Bowen i'r diweddar Barch. Charles Bowen. Ganwyd ef yn Rhydargaeau, Rhagfyr 27, 1829. Cafodd y fraint, fel ei frawd, o gael ei ddwyn i fyny yn eglwys Crist er yn blentyn. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod pan yn 14 oed. Dechreuodd bregethu pan yn 20 oed. Bu yn pregethu am wyth mlynedd. Bu am bedair blynedd yn Athrofa Trefecca. Bu farw Rhagfyr 14eg, 1857, yn 28ain oed, yr un diwrnod a'r un mis a'i frawd o'i flaen. Dydd ei angladd gweddiodd Mr. J. Walters, Llangendeirn; pregethodd y Parchn. T. Job, Llanddarog, a B. D. Thomas, Llandilo, oddiwrth Dat. xiv. 13, a Salm cxvi. 15, i dyrfa fawr oedd wedi ymgynull i dalu y gymwynas olaf iddo. Claddwyd ef yn Llanpumsaint, yn meddrod ei dadau, "mewn gwir obaith o adgyfodiad gwell."

Cafodd ef a'i frawd eu bendithio â rhieni crefyddol a duwiol; a gellir dywedyd am danynt ill deuoedd, fel am Obadin gynt, eu bod yn ofni yr Arglwydd yn fawr, ac wedi cydymffurfio â'r gorchymyn dwyfol "o borthi eu mynod ger llaw pebyll y bugeiliaid," sef magu eu plant yn "addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Yr oedd Daniel a Charles fel Samuel, gyda'r arch o'u mebyd; ac fel Josiah, yn gwneyd "yr hyn oedd uniawn yn ngolwg yr Arglwydd" er yn ieuainc; ac fel Timotheus, "yn gwybod yr ysgrythyr lân er yn fechgyn." Rhedasant ill dau eu gyrfa, o'r bru i'r bedd, heb dreulio un diwrnod erioed yn gyhoeddus yn ngwasanaeth y gelyn. Gyda