Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

golwg ar y weinidogaeth a dderbyniodd Daniel gan yr Arglwydd Iesu, yr oedd yn ddysglaer, yn rymus, yn darawiadol, ac yn ddidderbyn wyneb rhyfeddol. Yr oedd ei bregethau bob amser a thuedd ynddynt i fachu y gydwybod, i oleuo y deall, i eangu y meddwl, i ddarostwng balchder y galon gyndyn, ac yn enwedig i dynu i lawr yn garnedd gau noddfeydd yr hen wrandawyr. Mawr fel y bu mewn rhyfel â'r rhai hyn, fel y dywedwyd yn y bregeth angladdol, a bregethwyd yn y Cyfarfod Misol, oddiwrth Job v. 35. Yr oedd yn traddodi y gwirionedd mor ddidderbyn wyneb, nes oedd crefyddwyr cnawdol yn anfoddloni, a gwrandawyr deddfol yn gwgu; ond er anfoddlonrwydd y naill, a gwg y llall, traddodi y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu wnai ein hanwyl frawd, a gadael rhwng Duw a'r canlyniadau. Yr oedd cariad Crist yn ei gymhell; deddf ei Dduw yn ei galon, a chyfraith y gwirionedd yn ei enau. oedd ei eiriau fel symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan un o feistriaid y gynulleidfa. Ergydion marwol i lygredigaethau yr oes oedd pregethau Bowen. Un hen weinidog parchus yn y Deheudir, o'r dosbarth blaenaf, ag oedd yn ei wrando yn pregethu unwaith, a ddywedodd wrtho ar ddiwedd yr odfa, "Dyna, Bowen bach; pregethwch yn y style yna tra fyddech byw; dyna weinidogaeth gyfaddas i'r oes yr ydym yn byw ynddi; mae stamp y llywodraeth arni."

Fel y dywedir am dano yn y Dyddiadur, "Yr oedd ei bregethau yn sobr a difrifol; yn hynod felly bob amser; a'i sylwadau oll yn wreiddiol a tharawiadol iawn. Hir y cofir am ei bregeth sylweddol ar rith duwioldeb gan bawb a'i clywsant; yr hon oedd un o'r rhai diweddaf a draddododd. Teimlir hiraeth ar ei ol yn y Sir yn gyffredinol, o achos colli un ieuanc mor obeithiol,