oblegyd yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Ymorfoleddai yn yr iachawdwriaeth yn ei gystudd diweddaf; a theimlai ei fod yn ymadael â'r byd i fyned i gyflawn fwynhad o honi." Byr, mae yn wir, oedd ei oes weinidogaethol; ond bu yn ddiwyd a ffyddlon yn gweithio tra parhaodd ei ddydd. Machludodd ei haul yn gynar iawn; bu farw yn ngwanwyn ei ddydd. Aeth adref i lawenydd ei Arglwydd. Mae ef heddyw yn nghwmpeini myrddiynau o angylion a seintiau; ac yn eu plith mae Dafydd, Benjamin, Charles, a Thomas, ei frodyr; a Rachel ei chwaer. Gellir dywedyd mai dedwydd yw y rhieni a'u magodd. Nid nes yn aros heddyw ond un ferch yn weddill gan angau o'r saith a fagodd William a Mary Bowen. Ond, rieni duwiol, na thristewch fel rhai heb obaith;" y mae y chwech yn berffaith ddedwydd; ni ddeuant hwy bythyn ol, ond chwi a ewch atynt hwy.
A phwy a ŵyr na fyddwch i gyd fel teulu yn amgylchu yr un bwrdd, yn gwledda ar yr un wledd, ac yn canu yr un gân i dragywyddoldeb, heb ymadael mwy?