Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MR. JOHN DAVIES, CAIO.

GANWYD John Davies yn Mountain Gate, yn agos Cwm Iar, yn mhlwyf Llanllwny, Swydd Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1774. Aeth at grefydd pan oedd yn fachgen ieuanc yn New Inn. Dywedir mai yr un dydd yr aeth efe i'r society a'r foneddiges hono y mae ei henw yn arogli mor beraidd yn yr eglwysi, y diweddar Mrs. Rees, New Inn. Nid oes genym nemawr i ddywedyd am John Davies cyn iddo gael crefydd, o herwydd daeth ati cyn iddo gael ei lygru gan ei gyfoedion yn arferion pechadurus yr oes hono. Dechreuodd bregethu pan gyda militia Sir Gaerfyrddin yn Aberhonddu, tua'r flwyddyn 1798, pan oedd oddeutu 24ain oed. Dywedir iddo fod yn dra defnyddiol yn nechreu ei weinidogaeth mewn gwahanol ranau o'r Dywysogaeth, ac hefyd yn Dublin, yn yr Iwerddon, pan yn myned oddiamgylch gyda'r adran filwrol y perthynai iddi yn amser y rhyfel.

Yr oedd John Davies o faintioli cyffredin, ac yn dra chyflawn drosto; hardd a glân yr olwg. Gwisgai am dano yn addas i'r efengyl; cadwai ei hun yn lanwedd bob amser, ac felly y parhaodd tra y gallodd drafaelu. Byddai ei ferlyn ac yntau yn wastadol yn gadwrus iawn. Yr oedd yn ddyn serchus a chyfeillgar, ac yn hollol ddiniwed; yn un dystaw, dison am neb; ac os siaradai am rai, nis gallai lai na rhoddi gair da i bawb. Os na allai wneyd hyny, ni ddywedai ddim. Yr oedd yn wr