Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o ymddiried, ac fe gadwai gyfrinach. Ystyrid ef gan bawb a'i adwaenai yn Gristion didwyll.

Er na throai mewn cylch uchel fel pregethwr, eto yr oedd yn ffyddlon ac ymdrechgar yn ol y dawn a gafodd. Yr oedd yn adwaen ei le cystal a neb; ac ni ystyriai ei hun un amser yn rhyw un mawr, ac yn barod i dramgwyddo am na chai le uwch. Gostyngedig a hunanymwadol ydoedd ef. Elai i daith yn gyfaill i'r ieuanc. fel yr hen; ac felly y parhaodd tra y bu yn gallu teithio. Triniai ei faterion gyda melusder a deheurwydd priodol iddo ei hun; ac ni flinai neb â meithder byth. Yr oedd yn un cynes a nawsaidd yn ei ysbryd bob amser. Yr oedd hyn yn peri iddo gael derbyniad llawen a siriol yn mhob man lle yr elai. Byddai yn dda i lawer pe byddent yn ei efelychu ef yn hyn; ac yn ei ostyngeiddrwydd a'i fwyneidd-dra yn y manau lle y byddai yn lletya. Mae rhai ysywaeth i'w cael, gwneled y teuluoedd a fynont iddynt, nid yw yn bosibl eu boddloni. Fel yr oedd merch, yr hon oedd yn ddigrefydd, yn dweyd yn ddiweddar wrth ei mam: "Gobeithiaf," ebe hi, "na welaf y dyn yna byth mwy yn y tŷ hwn." Ond nid felly gwrthddrych y llinellau hyn. Yr oedd yn dda ganddynt ei weled yn galw drachefn a thrachefn.

Trafaelodd yr hen frawd hwn lawer yn ystod ei oes faith trwy Ddeheu a Gogledd Cymru. Bu rai gweithiau yn y Gogledd gyda'r diweddar Barch. Thos. Jones, Caerfyrddin; a llawer gwaith wedi hyny gydag aml un or brodyr yn y Sir. Cafodd iechyd da iawn trwy ei oes, hyd nes iddo fyned yn hen, a chael ei gaethiwo gartref o herwydd henaint a methiant; bu felly am ysbaid tair neu bedair o flynyddoedd. Yr oedd yn dda iawn ganddo weled ei frodyr yn galw i edrych am dano pan mewn dyddiau blin' yn y cornel. Yr oedd yn iraidd