Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rees Powell (A.); "yn yr odfa hon," ebe D. M., "wele yr Arglwydd yn dywedyd wrth Dafydd Morris, Er cymaint o bechadur ydwyt, wele fi, ie, wrth un nad oedd yn ymofyn am dano" Gwasanaethu pechod a satan oedd bwriad D. Morris wrth fyned i'r odfa, ond yr oedd gan Dduw waith arall iddo, sef pregethu yr efengyl. Pryd hyn aeth y saeth i'w galon. Clwyfwyd ef gan air yr Arglwydd, nes troi allan yn union o blith y rhai drygionus; ac yn lle myned gyda hwy i'r dafarn, adref aeth Morris cyn gynted ag y gallasai, gan. feddwl fod y ddaear yn ymagor i'w lyncu ef yn fyw i uffern. Fel hyn y bu am lawer o ddyddiau o dan daranau Sinai, bron gwallgofi, nes daeth y geiriau hyn i'w feddwl: "A gwaed Iesu Grist ei Fab ef sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod;" o hyny allan wele ef yn gweddio. Daeth goleu newydd i'r deall, ufudd-dod newydd i'r ewyllys, ffordd newydd, gwaith newydd, a chyfeillion newydd. Yn lle ymuno â'r Annibynwyr yn Cross Inn, cafodd ar ei feddwl ymwasgu a'r ychydig ddysgyblion oedd gan y Methodistiaid yn y Bettws, pan oddeutu 23ain oed. Yn mhen ychydig ar ol hyn ymunodd a'r cyfeillion yn Nghapel yr Hendre, o herwydd ei fod yn fwy cyfleus iddo; ac yma y treuliodd weddill hirfaith ei oes.

Wedi iddo ymuno â chrefydd, yr oedd yn ddigon amlwg i bawb weled fod D. Morris wedi cael tro trwyadl; ie, fe gafodd y fath gyfnewidiad nas gallasai neb ei wneyd ond yr Ysbryd Glân yn unig. Pryd yma nis gallasai ddarllen un gair yn y Bibl, na nemawr o adnod yn gywir pan ddechreuodd bregethu. Nid wyf yn meddwl i neb erioed ddechreu ar y gwaith â mor lleied o fanteision a'r brawd hwn. Er pan gafodd dro arni, (ei chwedl ei hun) daeth arno awydd mawr am i bawb