Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eraill ddyfod i deimlo yr un peth ac yntau, yn enwedig y rhai y bu ef yn cyd-bechu â hwynt, sef eu "troi o'r tywyllwch i'r goleuni, ac o feddiant satan at Dduw." Wedi cael anogaeth daer gan y brodyr yn yr Hendre, dechreuodd ymaflyd yn y gwaith pwysig o gynghori ei gyd-greaduriaid i ffoi rhag y llid a fydd. Cymerodd hyn le yn mhen oddeutu chwech mlynedd wedi dyfod at grefydd. Dechreuodd o dan anfantais fawr, fel y dywedwyd. Nis gallasai ddarllen o'r braidd un adnod yn gywir, ac eto yn taro ati yn nerth gras Duw a'i holl egni—yn llefain a'i geg heb arbed, ac yn mynegi i'r bobl eu camwedd. Yr oedd ganddo lais da, peraidd, a soniarus, ar ei darawiad cyntaf allan. Byddai weithiau yn dra tharanllyd, er nad oedd ganddo fawr o drefn ar ei bregethau; er hyny yr oedd myn'd ynddynt yr oeddynt yn finiog ac awchus. Nid oedd ei bregethau yn aml, o ran maintioli, ond bychain; ond yr oedd tân ynddynt: a phan byddai yn cael y gwynt o'i ochr, byddai pechaduriaid yn cael eu llorio nes taflu arfau i lawr. Mae yn ymddangos na fu neb yn ei oes ef yn Sir Gaerfyrddin, os nid yn Neheudir Cymru, yn fwy offerynol yn llaw yr Arglwydd i droi pechaduriaid. Nid oes nemawr o ardaloedd yn Neheudir Cymru, lle bu ef yn pregethu ynddynt, nas gellir dywedyd, "Y gwr a'r gwr a anwyd yno." Mae iddo luoedd o blant; ac er fod llawer o honynt wedi myned i'r nefoedd, mae llawer yn aros hyd heddyw a ddychwelwyd trwy ei weinidogaeth, nid yn unig, fel y dywedwyd, yn y Deheu, ond hefyd yn Ngogledd Cymru, yn enwedig Ynys Môn, a Lleyn, yn Sir Gaernarfon. Mae yr ysgrifenydd yn gwybod am ddau le yn y Deheu: yn un o honynt dychwelwyd un ar ddeg ar ugain trwyddo, ac yn y lle arall, bedwar ar ugain. Fe ddywedir fod rhai gweinidogion enwog