Nid oedd ei gystudd ond byr, ac yn anhysbys i lawer yn yr ardal. Aeth adref megys heb wybod i amryw o'i gyfeillion yn y gymydogaeth lle yr oedd yn byw. Gadawodd dystiolaeth dda ar ei ol fod ei farn a'i fater yn dda; ac "er fod y passage yn rough," eb efe wrth frawd aeth i ymweled ag ef yn ei oriau diweddaf, "y mae y cwbl yn ddyogel i fyned trwyddo." Diangodd o'n mysg i fod byth gyda "chymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-anedig, y rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd; ac at Dduw, Barnwr pawb; ac at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd," y rhai ydynt yn canu "can Moses a chân yr Oen." Er iddo gyfarfod â llawer o ofidiau yma ar y llawr, y mae heddyw yn ddiangol o'u gafael, ar fryniau Caersalem fry, wedi bod gyda chrefydd am wyth a deugain o flynyddoedd. Goddiweddodd lawenydd a hyfrydwch, a chystudd a ffodd ymaith.
Dydd ei angladd ymgasglodd tyrfa fawr iawn yn nghyd i'w hebrwng i fedd newydd, na bu neb ynddo o'r blaen, yn mynwent capel yr Hendre. Cyn cychwyn o'r tŷ, darllenodd a gweddiodd y Parch. W. Jenkins; yna aethpwyd i'r capel, lle y dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. H. Davies, Bethania (A.), ac y pregethodd y Parchn. J. Evans, Cydweli, a Josuah Phillips, Bancyfelin. Wedi rhoddi ei gorph yn y bedd, rhoddodd y Parch. D. Hughes, Cross Inn, gynghor dwys, difrifol, a phriodol i'r amgylchiad. Yna ymwasgarodd y dorf yn bruddaidd a galarus, ar ol hen frawd oedd yn anwyl iawn ganddynt.
Fel y canlyn y cofnodir ei farwolaeth yn y Dyddiadur:—"Mehefin 19, 1858, bu farw D. Morris, Hendre, Sir Gaerfyrddin, yn 71ain mlwydd oed, wedi bod yn pregethu yr efengyl am 42 o flynyddoedd. Nid oedd ei gystudd ond byr; ni wyddai nemawr o'r wlad