Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei fod yn glaf, nes oedd y newydd galarus am ei farwolaeth yn ymdaenu. Yr oedd yn un a gerid yn fawr yn mhlith pob graddau; meddai ar ddynoliaeth dyner ac addfwyn; nid adwaenai ddichell; nid oedd yn perthyn iddo; a thebyg nad oes neb arall all ddweyd am un tro dichellgar a gyflawnwyd ganddo. Hoffid ef yn fawr yn y tai lle byddai yn arfer myned. Yr oedd yn Gristion profiadol a diragrith, bob amser a'i bleser a'i hyfrydwch yn yr efengyl a bregethai. Yr oedd yn hoffi cyhoeddi y newyddion da, ac nid ychydig yw y nifer a dderbyniasant y newydd am fywyd o'i enau ef. Y mae lluaws o'i blant ysbrydol ar hyd a lled Cymru yn fyw i alaru ar ei ol. Bu farw gan dystio fod ganddo "heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist."