Gweld ffrwyth cymhelri a'i ynni anwar,—
Hir ochain a gwae a throchion gwyar,
Ynfydu heol, troi nef a daear
Yn ffwrn o lid gan uffernol adar,
Ysgwyd y byd a gwasgar—dinasoedd,
Taro miloedd gan storom o alar.
Plant yn gyrff gŵyrgam, trefydd yn fflamio,
Oesau o werthoedd dwyfol yn syrthio;
Tŷ Gweddi yn garn heb nenbren arno,
Eithr myglyd dduwch yn dristwch drosto;
Heddwch y byd yn suddo—gyda'r Grog
I greision halog . . . a'r Iesu'n wylo!
Baradwys lwys! Lle bu pêr leisio
Ei henw annwyl, mae'n uffern heno,
Tlysni'r "Hyfryd Wlad" yn ymado,
A'i chenhadon yn ocheneidio.
Fel lle'r chwain a'r puteinio,—pentwr llwyd
Yw'r fan lle cysegrwyd breuddwyd bro.
Try'r sant, o'i anfodd, a'r byd yn oddaith,
I wyll anhyder ar dyle'r dalaith;
Amau'r hen gred a leddfodd galedwaith
A'i ddwyn i uchelion gwynion ganwaith;
Holi, â'r caddug eilwaith—ar bob crib,
Ai seren wib oedd llusern ei obaith.