HAFNOS
DIGYFFRO, wedi'r tes, yw coed y dyffryn,
Diog yr afon hithau ar y ddol,
Ond cyfyd brithyll gwancus at y gwyfyn
A ddawns ymysg y clêr fel hoeden ffôl.
Syllaf o'r ffridd dros erwau'r hedd diarswyd
Heb weld na beddrod, na phererin claf,
Tremio a chilio draw i bellter breuddwyd
Yn gaeth gan hudoliaethau hwyrddydd haf.
Rhydd eurlliw'r cyfnos ddrych ei hen ogoniant
I'r briw fynachlog obry rhwng y llethrau,
A chyfyd tarth aroglus uwch y ceunant,
Onid wyf syrthlyd braidd gan sawr perlysiau.
Ni synnwn ddim pe gwelwn abad crwm
Yn chwifio'i thuser rhwng y muriau llwm.
Hawdd i fugeilfardd heno fyddai casglu
Ei ddefaid oll a'u llocio mewn caethiwed,
Ond gormod gorchest iddo yw corlannu
Mwynderau'r hafnos hon rhwng ffiniau soned.
Er suddo o'r haul, cân mwyalch nes pereiddio
Awr tranc y dydd a chwalu cysgod loes,
Ac megis chwedl pob dim a fedrai staenio
Daear a ddwg hawddgarwch euraid oes.
Dacw ysguthan ddiofn yn dychwelyd
I'w hundy yn y ffawydd uwch fy mhen,
Ond wele'i throi gan walch crafangog, tanllyd
A ddisgyn megis bollt o uchder nen.
Darfu ei hafddydd hi mewn ceuffos ddofn,—
Cyflymach asgell gwanc nag asgell ofn.