Daeth rhyw weddnewid dwys dros faes yr awron,
Ac nid adwaenaf mwy na lliw na llun,—
Cipiodd y machlud, draw dros gant yr eigion,
Holl degwch haf i'w goelcerth fawr ei hun.
Fel delwau milod anferth yw'r clogwyni
Gan ryw gyfaredd od a fedd dechreunos,—
Yr hesg fel byddin ddistaw rhwng y twyni,
A'r coed ar lechwedd megis torf yn aros.
Diau, genweiriwr sydd wrth odre'r goedwig
Yn taer anelu ei lith ar draws y ffrwd,—
Ni thrôi neb arall wyll hen geunant unig
Yn ddiofnusrwydd ag ysgorn mor frwd!
Traidd drwy uffernau'r drain a'r gwibed brathog
Heb deimlo dim ond ysfa'r heliwr ffyddiog.
Gwân chwilen heibio'n wyllt, fel edn yn ffoi,
A grŵn hen sturmant lleddf i'w thonnog si,
Yna llonyddwch nos yn ail grynhoi
A llenwi rhigol gam ei gwibio hi.
Geilw tylluan gan ddwysáu'r tawelwch,
A'i gwaedd fel colledigaeth ar fy nghlyw,
A thros y ceunant dwfn ymled tywyllwch
A gladd o olwg byd y marw a'r byw.
Meddyliaf am y curyll didrugaredd,
Â'i dwyll yng nghryndod ei adenydd braf,
A chais fy enaid athrist y gynghanedd
A gollais pan ystaeniwyd tegwch haf.
Gyda'r gylfinir effro ar y rhos,
Chwibanaf ymaith ddrychiolaethau'r nos.
Tudalen:Cerddi'r Bwthyn.djvu/28
Gwedd
Gwirwyd y dudalen hon