Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Y LLWYDREW
HAEN O wynder dros weryd,-Anian lom
O dan len o dristyd;
Arianlliw bore rhynllyd,
Oer ias y bedd dros y byd.
YR UCHEDYDD
GWYRTH ei osgo wrth esgyn,-â'i arawd
Yn diferu'n llinyn;
Yna dylif yn dilyn,
Fel glaw aur, dros foel a glyn.
Y GALILEAD
O, GRIST llwydwedd! Rhyfeddod-yr oesau,
Drylliog Rosyn dyndod;
Y glanaf, addfwynaf Fod,
Gwrthodedig wyrth Duwdod.