Tudalen:Cerddi Eryri.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mi welais roi'r arch yn y beddrod,
Ah! 'r oedd yr ystorom yn fawr,
A'r llaw a'm meithrinodd mor anwyl,
Yn rhwym ynddi'n myned i lawr;
Dygyfor wnai galar o'm deutu,
Hen ffrindiau a cheraint dinam,
Ond fi yn yr ymchwydd oedd ddyfnaf,
Ar ddiwrnod Cynhebrwng fy mam.

Y degfed ar hugain o Ragfyr,
Tra dalio fy oes ar y llawr,
Ystyriaf yn ddiwrnod o waeau,
A dychryn yn nhoriad ei wawr;
Os arno daw'r heulwen trylachar,
Mewn annghof i wênu'n ddinam,
Mi wylaf ei wenau yn alar,
Ar ddyddgylch Cynhebrwng fy mam.
TREBOR MAI

YSGOLDY RHAD LLANRWST WEDI IDDO FYNED YN ANGHYFANEDD.

Hoff rodfa fy mabolaeth,
Chwareule bore myd,
A wnaed, i mi yn anwyl,
Drwy lawer cwlwm Clyd;
Pa le mae'r si a'r dwndwr,
Gaed rhwng dy furiau gynt,
A'r plant o'th gylch yn chwareu
A'u hadsain yn y gwynt?

Mae anian o dy ddeutu
Mor bruddaidd ac mor drom,
Fel un f'ai cadw gwylnos
Uwch d'adail unig, lom;
Mae'r olwg arnat heddyw,
Gaed gyntmor dêg a'r sant,
Fel gweddw d'lawd, amddifad,
Yn wylo ar ol ei phlant.