Tudalen:Cerddi Eryri.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AR DDIWRNOD CYNHEBRWNG FY MAM.

Rwy'n ameu, rwy'n credu, rwy'n dychryn
Rwy'n drysu, yn nghanol fath don;
Gorchfygu y farn y mae'r teimlad,
Yn mrwydr gynhyrfus fy mron;
Ai tybed mai fi oedd yn sefyll,
A nghalon yn drywyllt ei llam,
Wrth ochor yr Eglwys, fan hono,
Ar ddiwrnod Cynhebrwng fy mam?

Dydd ingoedd, pe dydd fuasai hefyd,
Mae dydd arno'n enw rhy gu;
Nid dydd gaf fi alw'r fath enyd,
Ond noswaith ofnadwy o ddu;
Ni chododd y ser mewn prydferthwch
Na'r lleuad, oherwydd paham,—
Ni welais i ddim ond tywyllwch,
Ar ddiwrnod Cynhebrwng fy mam.

Mi glywais i'r heulwen gyfodi,
Gan wasgar goleuni ar daen;
A chlywais fod pobpeth y diwrnod,
Yn union fel dyddiau o'r blaen;
Ond ni chefais i ef ond breuddwyd,
Ni theimlais lle cerddais un cam;
Rhyw adwy rhwng dyddiau fy mywyd,
Oedd diwrnod Cynhebrwng fy mam.

Dyoddefais, do, 'i chuddio'r tro olaf,
Byth mwyach i weled ei phryd;
Dyfnderau fy ingoedd pryd hwnw,
Fy Nuw sy'n ei gwybod i gyd;
O! 'r ydoedd glyn Achor yn gyfyng,
A llwybrau Rhagluniaeth yn gam;
A wylo'n hyfrydwch diddarfod,
Ar ddiwrnod Cynhebrwng fy mam.