Gwirwyd y dudalen hon
Caradog.
HYD ystrydoedd dinas Rufain
Tyrra lluoedd gyda'r wawr;
Gwelir wrth eu gwisg a'u crechwen
Ddyfod rhyw ddiwrnod mawr.
Dros y môr yn nhir y Brython,
Hir a chyndyn ydyw'r gad;
Ond lle methodd grym a gwryd,
Lluniodd ystryw benyw frad.
I fodloni nwydau'r dyrfa,
Boblach o bob llun a lliw,
Dygir heddiw'n garcharorion
Rai a fu elynion gwiw.
Pennaf o'r gelynion hynny
Oedd Caradog, borth ei wlad;
Nid oedd a safasai rhagddo
Pe buasai deg y gad.
Trechodd am flynyddoedd meithion,
Lengoedd Rhufain dro ar dro,
Brad a'i daliodd yn y diwedd—
Parth y bai ni byddai ffo.