Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Coron Cadwallon.

I.

WEDI creulon a mynych ymladdau,
Colli ac ennill ar faes y gwaed,
Heddwch rhwng Cadfan frenin y Cymry
Ag Aethelfrith frenin yr Eingl a wnaed.

Amod yr heddwch oedd rannu'r ynys
A gado'i deyrnas yn rhydd i bob un,
Namyn mai Cadfan frenin y Cymry
Oedd mwy i wisgo'r goron ei hun.

Aethelfrith deyrn yr Eingl, ar hynny,
Troi ei frenhines o'i lys a wnaeth,
Hithau'n drist rhag ofn ei ddigofaint,
Am nawdd at Gadfan i Gymru y daeth.

Trist ganddo yntau Gadfan fu weled
Druaned ei golwg, ac ar ei wys,
Daeth y frenhines ei hun i'w derbyn,
A rhoddi iddi ryddid y llys.

Geni mab i'r frenhines alltud
Yng ngwlad ac yn llys hen elyn ei dad,
A'r noswaith honno y ganed hefyd
Etifedd gorsedd a choron y wlad.