Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Magu'r ddau megis brodyr o'u mebyd,
Hoff gan y ddau fod ynghyd ym mhob man;
Gwael gan Gadwallon fab Cadfan bopeth
Oni chai Edwin fab Aethelfrith ran.

Tyfu o'r ddau yn feibion heirddion,
Ac yna danfon Y ddau ynghyd
At Selyf frenin Llydaw i dderbyn
Y ddysg a'r gamp oedd orau'n y byd.

Ac yno yn llys y brenin Selyf,
Mawr oedd eu clod am eu gwryd a'u rhin,
Nid oedd a'u trechai ar gampau heddwch,
Nid oedd eu dewrach pan fyddai drin.

Bu dristwch yn llys y brenin Selyf
Pan ydoedd y ddau yn gadael y wlad,
Llawer rhiain yn drom ei chalon
A llaith ei llygaid wrth wylio'r bad.

Ond llawen fu Gadfan a'i frenhines
Pan ddaeth y llong a Chadwallon i dir,
Llawen fu hithau'r frenhines alltud
O weled ei mab wedi'r disgwyl hir.

Mawr fu'r wledd a roed i'w croesawu,
Yno daeth holl bendefigion y wlad,
A thrigodd Edwin yn llys y Cymry
Yn fawr ei barch ac uchel ei stad.