Megis pan oeddynt yn blant, a'u cariad
Y naill at y llall yn ffyddlon a phur,
Felly y carai y ddau ei gilydd
A hwy wedi dyfod i oedran gwŷr.
Treiglo yn rhwydd o'r blynyddoedd heibio,
Marw o Gadfan mewn henaint llwyd,
A dyfod Cadwallon yn frenin y Cymry
O enau Hafren hyd Ystrad Clwyd.
Yna daeth hanes i lys Cadwallon
Nad byw ydoedd Aethelfrith yntau mwy,
A bod yn nheyrnas yr Eingl ymrannu
Am nad oedd bennaeth a'i air arnynt hwy.
"Dos," medd Cadwallon, "i lys dy dadau,
A gwysia yno benaethiaid y wlad,
A byddaf innau yn gyfnerth iti
Wrth raid, i ennill hen gyfoeth dy dad.
"A boed i'r heddwch fu rhwng ein tadau,
Y ddau fu cyhyd yn elynion croes,
Fyth yn heddwch barhau rhyngom ninnau,
Y ddau fu gyfeillion ar hyd eu hoes."
"Gyfaill fy nghalon," medd Edwin yntau,
"Af wrth dy gyngor a chyrchaf y wlad,
Heriaf a threchaf fy holl elynion,
A mynnaf ennill hen gyfoeth fy nhad."
Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/36
Prawfddarllenwyd y dudalen hon