Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A chadw heddwch eu tadau a wnaethant,
A phobl y ddwywlad yn byw'n gytûn,
Yntau Gadwallon yn ôl yr amod
Yn gwisgo coron yr ynys ei hun.

II.


Pan oedd Cadwallon un dydd yn rhodio
Hyd fur ei lys ar derfynau'r wlad,
Gwelai hen filwr penwyn yn wylo-
Milwr a fu yn rhyfeloedd ei dad.

Trist gan y brenin oedd weled dagrau
Ar ruddiau gŵr a fu ddewr yn ei ddydd;
Diau," medd ef, "mai mawr yw dy ofid,
Dywed pa achos i hwnnw y sydd.'

"Hen ydwyf i," medd yntau yn araf,
Cof gennyf i ryfeloedd dy dad ;
Gwych oedd y dydd pan ruthrem i ganlyn
Cadfan ein brenin i ganol y gad.

"Dychryn yr Eingl oedd Cadfan a'i luoedd,
Rhuthrem drwy Frynaich a Deifr ar ein hynt
Megis goddaith drwy eithin y gwanwyn,
A'r fflamau'n llamu o flaen y gwynt.

Gŵr oedd Cadfan a'i air ar genhedloedd,
A choron yr ynys oedd ar ei ben;
Heddiw, gwae ni, nid brenin y Cymry
Yw unig frenin yr ynys wen!”