Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Pwy a ddywed," medd yntau Gadwallon,
Nad unben yr ynys hon ydwyf i?"
"Y mae," medd y milwr, goron arall,
A phennaeth yr Eingl sy'n ei gwisgo hi!"

Hir yr edrychodd y ddau ar ei gilydd,
A cherddodd y brenin ymaith yn fud;
"Gwae yr Eingl! "medd milwr dan wenu,
"Mae d'ysbryd di, Gadfan, yn fyw o hyd!"

III.


O fur y gogledd hyd enau Hafren,
O fôr Iwerydd hyd gyrrau'r wlad,
Galw o Gadwallon ei wŷr yn lluoedd
I gadw neu golli hen goron ei dad.

Megis croeswyntoedd y gaea'n hyrddio
Nes torchi gwanegau yr eigion blin,
Rhuthro o luoedd Cadwallon ac Edwin
I wyneb ei gilydd ar faes y drin.

A chwerw a chyndyn fu'r brwydro hwnnw,
A hwythau'r brenhinoedd ym mlaen y gad,
Wyneb yn wyneb megis gelynion-
Dau a fu gynt yn gyfeillion mad.

"Cu oeddit gennyf gynt," medd Cadwallon,
"Cas gennyf eto a fyddai dy ladd;
Cofia gyfamod ein tadau heddiw,
Gollwng dy goron a chadw at dy radd."