Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cynfrig Hir a'r Brenin.

I.

A HUW GOCH yn iarll Amwythig,
A Huw Flaidd yn Arglwydd Caer,
Dewr fab Cynan a'u hwynebai,
Trechodd hwy mewn llawer aer.

Pan oedd Gruffudd fwya'i lwyddiant,
A'i elynion dan ei draed,
Medrodd brad yr hyn ni allai
Grymus gyrch ar faes y gwaed.

Meirion Goch oedd enw'r bradwr
A'i gwahoddes ef un dydd.
I gyfarfod dau bendefig
Ar ei dir i hela'r hydd.

Mynd a wnaeth y brenin yntau
Heb amddiffyn yn y byd
Namyn rhai o wŷr ei osgordd—
Nid amheus fydd mawr ei fryd.

Felly rhoed y gŵr a'u trechodd
Gynt mewn llawer ymdrech daer
Yng ngefynnau Iarll Amwythig
Ac yng ngharchar Arglwydd Caer.