Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Hir y bu'n dihoeni yno
Yn ei gell, a'r estron iau
Ar ei ddeiliaid di-arweinydd
Byth a beunydd yn trymhau.
II.
Cynfrig Hir o dir Edeirnion,
Gŵr oedd ef o gawraidd hyd,
Gŵr a'i gryfdwr yn ddihareb,
Gŵr nid ofnai ddim o'r byd.
Gwyddai Cynfrig ddulliau'r estron,
Yn y dref fel yn y drin,
A di-lediaith hefyd ydoedd
Iaith y gelyn ar ei fin.
Yno wedi llawer blwyddyn
O ddioddef gormes ddu,
Cyngor gan y pendefigion
Yn Edeirnion dir a fu.
"Gwych a fyddai wneuthur hynny,"
Medd un arall llym ei wedd;
Gwych!" medd eraill gan gyfodi
Bawb a'i law ar garn ei gledd.
Meddai bardd, a'i lais yn crynu-
Coder byddin, na hwyrhaer,
Llosger tai ac eiddo'r gelyn,
A diffeithier dinas Gaer!"