Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyfododd yntau Owain,
A'r tân yn llosgi'n goch,
A'r tannau'n seinio'n is ac is,
A'r gwynt yn rhuo'n groch.

Och! Owain ap Cadwgan,
Pa le y cyrchi di?—
Mae bywyd a marwolaeth rhwng
Dy gariad a thydi!

IV.


Mae gwaedd yng nghastell Cenarth
(O Dduw! mor ddu yw'r nos!)
A'r gwylwyr oddi ar y mur
Yn cwympo'n feirw i'r ffos.

Mae braw yng nghastell Cenarth
(O Dduw! mor ddu yw'r nos!)
Mae wyneb Gerallt fel yr ia
Ac wyneb Nest fel rhos.

Mae ofn yng nghastell Cenarth
(O Dduw! mor ddu yw'r nos!)
Mae Gerallt wedi ffoi, a'i wŷr
Yn dianc hyd y rhos.

Mae serch yng nghastell Cenarth
(O Dduw! mae'r nos yn ddydd),
Ar fynwes Owain wyla Nest
O rwymau trais yn rhydd.