Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae nef yng nghastell Cenarth
(O Dduw, mor bêr yw serch!)
Angerddol ydyw cariad mab,
Ond mwy yw cariad merch.

Mae tân yng nghastell Cenarth,
A'i fflamau'n bwyta'r nos,
A dau yn eithaf gwynfyd serch
Yn rhodio ar hyd y rhos.

Ni chlywant sŵn y gwyntoedd,
Ni theimlant oerni'r nos,
Mae Owain fel y storm, a Nest
Yn annaearol dlos!

V.


Yng nghoedydd Ystrad Tywi,
Ar nos ddrycinog ddu,
Ymguddio rhag y gelyn cas
Mae ffoedigion lu.

Och! Owain ap Cadwgan,
Ai ti yn frwnt dy frad,
Y sydd er mwyn dy elyn gynt.
Yn hela gwŷr dy wlad?

Ai angof gennyt heno
Dy hen wladgarwch gynt,
Pan daniai Cymru wrth dy air
Fel goddaith yn y gwynt ?