Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Gwenllian.
I.
"O, WENLLIAN, tawel ydwyt,
Nid oes arnat fraw na brys,
Onid wyt yn ofni?" meddai
Un o arglwyddesau'r llys;
Clyw, mae rhywun heno'n curo,
Curo, curo ar borth y llys."
"Nid oes oddi allan heno
Namyn sŵn y gwynt a'r glaw,"
Medd Gwenllian, y frenhines,
"Ac nid adwaen innau fraw
Gwrando ar y gwynt yn rhuo,
Rhuo dros y tyrau draw!"
"O, Wenllian, clywaf leisiau,
Lleisiau gwŷr ym mhorth y gaer;
Gwrando! oni chlywi dithau
Guro tost a gweiddi taer?"
Clywaf sŵn y gwynt yn rhuo,
Rhuo dros y tyrau draw,
Yna'n chwerthin ac yn gweiddi
Yn ei ruthr ar ôl y glaw."