Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"O na ddôi y brenin yma
Eto i'th amddiffyn di;
Ond os trechir yntau hefyd
Gan y Norman, gwae nyni!"

"Trechu Gruffudd, anodd fyddai,
Rhoddwyd iddo nawdd y nef,
Canodd adar Llyn Syfaddon
Iddo pan goronwyd ef.

A byddinoedd yn ei ganlyn,
Daw yn ôl o lys fy nhad,
Yna rhag ei fâr, bydd diwedd
Ar yr estron yn ein gwlad."

'Clyw! mae rhedeg yn y cyntedd,
O, Wenllian, ffown yn awr!"
Yna syrthiodd yr arglwyddes
Ar ei gliniau ar y llawr.

Cyfod!" meddai y frenhines,
Estyn imi'r cleddyf draw;"
Yna i agor dôr neuadd
Aeth a'r cleddyf yn ei llaw.

Syrthiodd un o wŷr y brenin
Ar ei liniau wrth ei thraed,
Cymysg ar ei wyneb ydoedd
Glaw a llaid a chwys a gwaed.