Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ednyfed Fychan
I.
RHUA storm ym mrig Eryri,
Rhua'n hir a dofn ei thôn,
A chynhyrfus ydyw'r tonnau
Ar dueddau Ynys Fôn.
Disgyn gwyll y nos yn araf
Ar y mynydd, ar y môr;
Da fydd gaffael cysgod heno
Pan agoro'r gwynt ei ddôr.
Tua phlas Tre Garnedd heno
Llawer un yn cyrchu sydd,
At briodas yr arglwyddes
Yn yr eglwys fory a fydd.
Gwŷr o fonedd ac anrhydedd
Sydd yn dyfod fwy na mwy,
A rhianedd penna'r ynys
Yn eu harddwch gyda hwy.
Yn y neuadd fawr eisteddant
Bob yn ail o gylch y bwrdd;
Melys yw y medd a'r gwinoedd,
Ysgafn yw eu llawen dwrdd.