Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wele res o delynorion.
Ac o feirddion ar y fainc,
Gwyr yn medru gweu a chanu
Hwylus gerdd a melys gainc.

Tyner ydyw sain y tannau,
Sŵn y lleisiau sy yn llon,
Fel yr awel yn y llwyni,
Megis chwerthin araf don.

Cân y bardd am gariad dirfawr
Garwy Hir a Chreirwy dlos,
Cariad Trystan gynt ac Esyllt
Ar y môr yn nyfnder nos.

Gloywa llygad llawer marchog,
Cura calon llawer merch,—
Melys ydyw aros cariad,
Peraidd ydyw cofio serch.

Yno mae Gwenllian hithau,
Yn ei llen o sindal drud;
Er nad ieuanc moni mwyach,
Hardd ei chorff a glân ei phryd.

Gwrendy ar y beirdd yn canu
Hanes calon mab a merch,—
Eiddi heno aros cariad,
Eiddi heno atgof serch.