Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cof yw ganddi serch Ednyfed
(Och nad byw Ednyfed mwy!)
Cofio heno yn ei chalon
Am y dydd y rhwymwyd hwy.

Gwrendy ar chwerthin y rhianedd,
Eto gwelw a thrist ei gwedd;
Gwêl y gad yng ngwlad yr estron
A'r rhyfelwr yn ei fedd.

Nid oes neb a wêl ei gofid,
Nid oes neb a ŵyr ei loes,
Mae a'i gwelsai ac a'i gwypai
Yn y gweryd dan ei groes.

Oddi mewn mae cân a chwerthin,
Gwin a medd a gwenau mwyn;
Oddi allan mae y gwyntoedd
Heno'n wylo'n drist eu cwyn.

Trwm i galon friw Gwenllian
Yw y gân a'r chwerthin llon,
Gwell fai sŵn y gwynt galarus
Gan yr hiraeth yn ei bron.

Cyfyd yn ei gofid distaw,
Gwên yn welw ac yna chwardd,
Fel a chwarddo'n oer rhag wylo,—
Yna cerdda i grwydro'r ardd.