Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Yr Hen Lafurwr
SION DAFYDD gynt o Ben yr Allt,
Yr oedd ei wallt yn ddu,
A'i gorff yn ystwyth ac yn iach,
Ei burach ef ni bu.
O ddeg o blant mewn bwthyn llwm
Ef oedd yr hynaf un,
A'r tad yn ennill cyflog bach,
Er na bu dygnach dyn.
Ni chafodd gychwyn yn y byd,
Na chwarae teg erioed,
Ond gorfod troi i wneud rhyw swydd.
Yn blentyn seithmlwydd oed.
Un tipyn ni chynhilodd o .
Er iddo geisio'n daer,
Ond mynd a'i gyflog bychan tlawd
I fagu brawd a chwaer.
Fe gerddai 'mhell i'r ysgol Sul
Yn flin o gam i gam,
A dysgodd lawer pennod faith,
A darllen iaith ei fam.