Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn llofft y stabl, a hithau'n oer,
Heb neb i chwilio'i gwyn,
Darllenai bob rhyw lyfr a gâi
Wrth olau cannwyll frwyn.

Ac felly dysgodd lawer iawn
Oddi wrth ei lyfrau i gyd,
A llawer mwy heb unrhyw lyfr
Nag athro yn y byd.

Adwaenai ddail a llysiau lu,
A gwyddai am eu rhin
I leddfu poen a gwella cur,
A llawer dolur blin.

Fe wyddai enwau'r adar mân,
Adwaenai gân pob un,
A gwyddai hanes hwn a'r llall,
A'u lle a'u lliw a'u llun.

Pan ddeuai dywydd hirddydd haf,
Fe'i gwelid gyda'r nos
Yn gwylio bywyd mynydd maith
A throeon hirfaith ros.

A phan fai gaeaf du ac oer
A'i rew yn llwydo'r llwyn,
Yn llofft y stabl y byddai ef
A'i lyfr a'i gannwyll frwyn.