Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Os mawr a chaled oedd ei law,
Ag ef yn ddeunaw oed,
Ni bu yn unman gryfach dyn
Na harddach un erioed.
Fe wybu yntau brofi serch,
A charodd ferch yn fawr,
A chestyll gwych a gododd ef
Yn llon rhwng nef a llawr.
A'r ddau ryw hwyr o wanwyn teg
Ar wib hyd grib y graig,
Dywedodd Catrin wrtho fo
Y byddai iddo'n wraig.
Cymerodd yntau'n gartre glân
Ryw fwthyn bychan tlws,
A dygodd lu o flodau hardd
I'r ardd o flaen y drws.
Fe'i gwelid ef a'i ddarpar gwraig
Yn croesi'r graig fin nos,
Hyhi yn mynd i daclu'r tŷ
Ac yntau i blannu rhos.
Yr oedd y byd yn hardd a gwyn
I'r ddeuddyn, ond fe ddaeth
Rhyw blaned chwith a'i droi cyn hir
Yn ddu yn wir a wnaeth.