Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Un noswaith deg yn nechrau haf,
A Mai yn hulio'r wlad,
Daeth angaú heibio Pen yr Allt,
A chollodd Siôn ei dad.

'Roedd yno fam a phlantos mân
Yn druan ac yn dlawd;
Aberthodd Siôn ei serch er mwyn
Dyletswydd mab a brawd.

Daeth deuddyn arall wedi hyn
I'r bwthyn gwyn i fyw;
Rhoes Siôn yr ardd, dan flodau'n frith,
I'r ddau, a bendith Dduw.

Daeth gaeaf du ar ôl yr haf,
A haf drachefn ar hynt,
Ond nid oedd Siôn a Chatrin Rhys
Yn caru megis cynt.

Pan daenai Mai ei flodau gwiw
Hyd lawr, bob lliw a llun,
Fe welodd Siôn roi Catrin Rhys
Yn wraig ffodusach dyn.

Ac yntau'n cario calon friw,
Er bod ei liw yn iach,
Gan ddwyn ei geiniog brin yn bur
I'w fam a'i frodyr bach.