Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe welodd dyfu'r brodyr bach
Yn llanciau iach a llon;
Agorodd eu priodi hwy
Hen glwy o dan ei fron.

Bu cwymp yn Chwarel Pen y Lôn,
A chollodd Siôn ei frawd,
A magodd yntau'r teulu bach
Ar bwys ei geiniog dlawd.

Am lawer blwyddyn dug ei bwn
Gan helpu hwn a'r llall,
A rhannu pres o'i brin ystôr,
A llawer cyngor call.

Ond aeth yn hen, a daeth y nos
Yn agos ato'n wir,
A'i gefn yn grwm a'i gam yn fyr
Ar ôl ei lafur hir.

Siôn Dafydd gynt o Ben yr Allt,
Y mae ei wallt yn wyn,
Fe'i gwelais wrth y Tloty ddoe,
A'i wedd yn hurt a syn.