Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Y Bardd
PAN oedd ef yn llanc penfelyn
Gartref ar y mynydd gynt,
Hoffai glywed cainc y delyn,
Carai wrando ar sŵn y gwynt.
Carai grwydro rhwng y blodau,
Ac ymgolli dan y dail;
Gwelodd yno ryfeddodau
Fyth na chanfu ef eu hail.
Dysgodd lu o draddodiadau,
Chwedlau gwyll y duwiau gynt;
Aeth drwy fywyd gwyllt ei dadau
Hyd y rhosydd, yn y gwynt.
Ag efô yn mynych grwydro
Gan freuddwydio ar yr hynt,
Gwelodd fannau lle bu frwydro
Dros y fraint a gollwyd gynt.
Carodd hanes tywysogion.
Cymru pan oedd eto'n rhydd,
Arthur Frenin a'i Farchogion,
A ddaw'n ôl pan ddêl y dydd.