Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Chwiliodd lawer am yr ogo
Lle maent hwy yn huno'n hir,
Nes bod galwad a'u harfogo
Unwaith eto dros eu tir.
Gwelodd hyd y moelydd brychion
Lawer llu, wrth olau'r lloer,
Heibio yn eu gwisgoedd gwychion
Yn ymdeithio'n fud ac oer.
Coch a du a gwyrdd a melyn,
Glas a gwyn eu gwisgoedd cain,
Gwiw eu golwg—gwae y gelyn
Yn y rhuthr o flaen y rhain!
Yn y niwloedd oer a llwydion,
Collai hwy ar glais y wawr,
Ond ni pheidiodd â'i freuddwydion
Am ddyfodiad Arthur Fawr.
Hyfryd oedd y dyddiau hynny,
Teg a rhyfedd oedd y byd,—
Pan orffenno'r enaid synnu,
Cyll ei dwf a'i nerth i gyd.
Gwelodd flodau'r haf yn heidio
Lawer tro ar frigau'r drain,
Ond ni allodd unwaith beidio
A rhyfeddu at y rhain.