Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ond yn nhreigliad y blynyddoedd,
Mynd a ddarfu iddo ef
O dawelwch y mynyddoedd,
Lle mae'r ddaear yn y nef.
Yn y dref yn flin ei drafael
Wedyn cafodd lawer croes,
Ond ni chollodd ef ei afael
Ar freuddwydion bore oes.
Gwybu estron draddodiadau,
Dysgodd bennaf ieithoedd byd;
Iaith a hanes gwlad ei dadau,
Mwy y carodd hwy o hyd.
Hir freuddwydiodd ganu cerddi
A rồi frii’w fro ei hun,
Gwneuthur llawer gorchest erddi
A'i chyfodi'n uchaf un.
Bod a geisiai yn lladmerydd
Syndod enaid drwy ei hun,
A mynasai roi lleferydd
I ieuenctid ysbryd dyn.
Taerwyd mai oferedd ydoedd
Ei freuddwydion oll i gyd;
Eto unig fyd y bydoedd
Oeddynt iddo ef o hyd.