Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ei galon fe ddychmygodd
Ieuanc fyd heb wae na chŵyn;
Credodd ynddo a dirmygodd
Aur ac arian er ei fwyn.

Wyched oedd ei weledigaeth,
Uched oedd ei gais ef gynt!
Ond yn nydd y brofedigaeth
Chwalwyd hwythau gyda'r gwynt.

Daeth tynghedfen i wahanu
Rhyngddo ef a'i freuddwyd fyd;
Mae y cerddi heb eu canu,
Yntau'r bardd yn adfail mud.

Gwrthun, ebe gwŷr y geiniog,
Ofer oedd ei lafur ef,
A'i ddychymyg ffôl, adeiniog,
Melltith oedd, nid bendith nef.

Ni wyr yntau mo'r llawenydd
Gynt a wyddai, truan yw;
Collodd ryddid yr awenydd,
Od yw'n bod, nid ydyw'n byw.

Ond er dyfod cwymp alaethus
Ar y byd a wnaeth y bardd,
Mynych dry ei drem hiraethus
At y lle bu'r breuddwyd hardd.