Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Y Conach.
CADWAI'i hendaid yn y dref
Le i ddarllaw diod gref;
Nid oedd hynny ynddo'i hunan
Glod nac anglod iddo ef.
Byddai wrthi fore a hwyr,
Gwnâi bob peth a wnâi yn llwyr;
Beth cyn hynny oedd y teulu,
Nid oes heddiw neb a'i gŵyr.
Ond fe gasglodd lond ei god,
Ac am hynny cafodd glod,
Codwyd ef yn ustus heddwch—
Un o'r swyddi penna'n bod.
Daeth y teulu yn ei flaen,
Er mai cas oedd cofio staen
Masnach ar yr hendaid hwnnw,
Ond mae aur yn gwella'r graen.
Aeth y taid i fyw i'r wlad,
Prynu tir a wnaeth y tad,
Gwnaed e'n farchog am na chafodd
Fynd i'r Senedd er ei stad.