Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aeth y mab pan ddaeth ei dymp
I ysgolion mawr eu camp,
A daeth adref o Rydychen
Wedi dysgu rhwyfo'n rhemp.

Pennaf peth yng ngolwg hwn
Ydoedd fedru trin y gwn;
Ni bu ail er dyddiau Nimrod
Iddo yn yr hollfyd crwn.

Carai ef yn fawr ei froch
Gŵn a meirch a siaced goch,
Rhwygo gwrychoedd, âr ac egin,
Rhegi 'n greulon, gweiddi'n groch.

Caed fod hynny cyn bo hir
Wedi codi staen y bir,
A'i fod yntau'n deilwng bellach
O gymdeithas benna'r tir.

Nid oedd goedydd ar ei stad—
Wyr tafarnwr oedd y tad—
Felly nid oedd yno loche:s
I bryfetach gwylltion gwlad.

Rhaid cael coed i'w magu hwy
A mieri fwy na mwy,
Lle câi ieir y coed a phetris
Gysgod braf o hanner plwy.