Prawfddarllenwyd y dudalen hon
O'u cartrefi hen cyn hir,
Gyrrodd ddynion gorau'r sir,
Dygodd yn eu lle lwynogod-
Onid eiddo ef y tir?
Bellach, magu yno mae
Adar hanner dof, na bae
Neb o'r helwyr gynt a'u saethai
Mwy nag ieir ar gwr y cae
Wele'r Conach wrth ei waith
Heddiw ar yr helfa faith,
A'i gyfeillion yn ei ganlyn
Megis byddin ar ei thaith.
Rhaid wrth lu o wŷr a ffyn
I ddychrynu'r adar syn
Cyn y codant ar yr asgell
Fel y saetho'r helwyr hyn.
Saif y Conach yntau draw,
Dau o ynnau at ei law,
Dyn i'w llwytho'n barod iddo,
Hwythau'n clecian yn ddi-daw.
Cwymp yr adar wrth ei draed
Gan ymgreinio yn eu gwaed,
A'i ddig anian ni ddigonir,
Digon iddi 'rioed ni chaed.