Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hyd y llawr yn glytiau briw,
Gwinga rhai yn hanner byw,—
Cam ar druan fod yn greulon,
Camp ar ŵr cyfoethog yw.

Ar ddifyrrwch mae ei fryd,
Am ddifyrrwch tâl yn ddrud,
A'i ddifyrrwch unig ydyw
Lladd a lladd a lladd o hyd.

A'i ddifyrrwch ni rydd hoen,
Lledu'n llidiog mae ei ffroen,
Creulon yw ei wanc ddiderfyn
Ef am ladd a pheri poen.

Chwerwaf cad a fu erioed
Lladdfa'r adar yn y coed,
Pennaf lladdwr oedd y Conach,
Mawr y moliant iddo a roed.

Fore arall gyda'r wawr
Clywir corn y Conach mawr;
Gwae lwynogod yr ardaloedd,
Ar eu hôl y mae yn awr!

Rhuthra yn ei lidiog chwant
Heibio'r gŵr sy'n talu'r rhent,
Ac ni thry ag edrych arno
Mwy na'r llwch sydd ar ei hynt.