Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GEIRFA

aer: brwydr, battle.
anghyfannedd: lle na bo pobl yn byw, uninhabited.
alltud: estron, exile.
alltudio: gyrru un o'i wlad.
bâr: dig, llid, anger.
baidd: tryd. pers. unig., amser presennol, o'r berfenw beiddio, to dare.
bas: gwael, salw, base.
Brawd: mynach, a friar.
Bryneich: darn o Loegr gynt, Bernicia.
canwelw: lliw gwynllwyd, pale.
cannaid: lliw gwyn disglair.
conach: upstart.
Creirwy: Sonnir amdani fel un o'r merched harddaf oedd yn llys Arthur.
crwydrad: un ar grwydr, cerddedwr, wanderer.
cwyredig: wedi ei gŵyro, waxed.
cyfliw: o'r un lliw; dywedir "cyfliw gŵr a llwyn" am wyll y nos, pan na ellir gwahaniaethu rhwng pethau.
cyhyrog: gewynnog, muscular.
cymryd y groes: term a arferid yng Nghymru gynt am fyned i'r Groesgad, Crusade.
cyrchu: mewn ystyr filwrol, myned yn erbyn, ymosod, to attack.
darpar gwraig: dyweddi. Enw, ac nid ansoddair, yw darpar, felly ni feddelir cytsain gyntaf enw a'i dilyno yn y cyflwr perthyn.
dedryd: dedfryd, barn, judgment.
Deifr: Darn o Loegr gynt, Deira.
diffeithio: difa, dinistrio, destroy, sack.
drudion: rhai dewr, brave. Felly yn yr enw lle, Cerrig-y-drudion.
dyfyn gwŷs, galwad, summons.
Eingl: Angles.
Esyllt: merch i frenin Iwerddon, yn ôl y chwedl, a garai Dristan.