Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y DDWY WYDD DEW

HEN ŵr bychan
A dwy ŵydd dew
Yn mynd tua'r farchnad,
Drwy'r eira a'r rhew;
Yr hen ŵr bychan
Yn chwerthin yn braf,
A'r ddwy ŵydd druan
Yn teimlo'n reit glaf.

"Ddown ni byth yn ôl,"
Meddai'r ddwy ŵydd dew;
"Fe'n gwerthir ni heddiw
Am bris go lew";
A gwerthwyd y gwyddau
I gigydd mawr tew,
Y diwrnod hwnnw,
Am bris go lew.

Yr hen ŵr bychan
A'i logell yn llawn,
Ddaeth yn ôl i'w dyddyn
Yn hwyr y prynhawn,
Ei lygaid yn loyw,
A'i dafod yn dew
"Myn dyn," meddai ef,
"Cefais bris go lew."