Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MYNWENT BETHEL

MAE'R "Bedol" ar yr aswy
A "Bethel" ar y dde,
A'r fynwent yn y canol—
Hir gartre plant y dre;
Daw holl ffyddloniaid Bethel
A'r Bedol yn eu tro
Yno i gadw noswyl,
A chysgu yn ei gro.

Mae Huws, y Grosar, yno—
Y blaenor wyneb-drist,
Ei ddagrau wedi'u sychu
Am byth o fewn y gist;
A Wil, y Glöwr rhadlon,
A feddwai ambell dro—
Mae yntau'n gorwedd yno,
Heb syched, yn y gro.

Fe garai Wil y meysydd
A'r llwyni drwy ei oes,
Cwningen a 'sgyfarnog
A milgi hir ei goes;
Mewn cân a chwmni diddan
Y treuliai lawer awr,
Dan gronglwyd glyd y Bedol
Ar fainc y gegin fawr.