Prawfddarllenwyd y dudalen hon
A hirfloedd a dyr allan,
Gan lenwi'r dyffryn llydan—
Rhyw nerthol gawr, fel taran fawr,
A nef a llawr sy'n gwegian.
"Hwrê, Hwrê i Guto,
Nyth Brân a orfu eto":
Daw'r fanllef lon yn don ar don,
A'r gŵr bron â llesmeirio.
Ei riain a'i cofleidia,
Gan guro'i gefn—ond gwelwa
Y llanc ar fron ei eneth lan,
Ac yna'n druan trenga.
Cei ddarllen ar y beddfaen
Sydd uwch ei wely graean
Yr hanes trist, ac fel y'i caed
Yn gorff wrth draed ei riain.
Ac am ei roi i huno
Ym mynwent wen Llanwynno,
'R ôl curo'r march, yn fawr ei barch
Mewn derw arch ac amdo.