"The Bride of Neath Valley" (1866). Ond byr fu bri'r ddau gyfansoddiad hyn, ac anfynych y clywir hwy heddiw. Ei gymwynas fwyaf oedd trefnu ein halawon cenedlaethol. Trefnodd lawer ohonynt yn fedrus iawn ar gyfer ei hoff offeryn, sef y delyn, a chenir hwy'n fynych o hyd. Trefnodd rai alawon ar gyfer corau, ac y mae'n rhyfedd na chenir byth mohonynt heddiw, a chymaint o brinder trefniadau felly.
PENNOD II
YR ARLOESWYR
WRTH ymdrin â'r telynorion yn y bennod ddiwethaf, ychydig a soniwyd am gyflwr cerddoriaeth yng Nghymru, oherwydd yn Llundain, bron yn ddieithriad, yr oedd y telynorion yn byw ac yn bod, ac ar dro yn unig y deuent i Gymru. Yn nechrau'r ganrif, yr oedd cyflwr cerddoriaeth yn bur resynus. Felly y parhaodd pethau hyd tua chanol y ganrif. Yna dechreuodd wella, trwy ymdrechion ychydig o arloeswyr, a dechreu- odd cyfansoddwyr Cymru ysgrifennu cerddoriaeth a haeddai sylw.
Cyn 1800, ychydig iawn o gerddoriaeth Gymreig a oedd ar gael, oddieithr y casgliadau o alawon cenedlaethol a gyhoeddwyd yn Llundain, yn bennaf, gan Parri Ddall, Bardd y Brenin a Bardd Alaw. Rhaid crybwyll hefyd am waith y cyhoeddwr medrus o Edinburgh, George Thomson, a gyhoeddodd dair cyfrol o alawon Cymreig, yn 1809 a 1814. Talodd ef i gyfansoddwyr enwog, megis Haydn a Beethoven am drefnu'r alawon, ac i amryw o awduron Seisnig, na chlywir sôn amdanynt heddiw, am ysgrifennu'r geiriau. Ond er gwaethaf enwogrwydd Haydn a Beethoven, nid llwyddiant mo'r gwaith hwn. Aeth eu trefniadau o alawon Cymreig i ebargofiant ers talm. Y mae'n debyg mai'r rheswm am fethiant y casgliad hwn yw mai Almaenaidd yn hytrach na Chymreig yw ansawdd y trefniadau. Ar wahân i'r alawon cenedlaethol nid oedd unrhyw gerddoriaeth Gymreig arall, oddieithr ychydig o donau a gyhoeddwyd ynghyd â Salmau Edmwnd Prys, mor bell yn ôl â 1621.