Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Heblaw bod cerddoriaeth wreiddiol Gymreig yn brin, nid oedd ond ychydig o wybodaeth am ochr ymarferol y gelfyddyd. Ychydig iawn o bobl a fedrai ddarllen cerddoriaeth, ac yr oedd cyflwr cerddoriaeth yn yr eglwysi a'r capelau, sydd heddiw'n beth i ymfalchio ynddo, y pryd hwnnw'n warthus. Wrth sylwi ar hyn, dywaid gohebydd yn Y Gwyliedydd yn 1823 "fod eglwysi Sir Feirionnydd heb ganu ynddynt o gwbl." A dyna Brinley Richards yn dywedyd yn Eisteddfod Biwmares yn 1832 nad oedd cymaint ag un côr Cymreig i'w gael; ac mai'r unig leiswyr Cymreig oedd y datgeiniaid gyda'r delyn. Yr oedd un peth i gyfrif am hyn. Nid oedd gramadeg cerddorol i'w gael yn yr iaith Gymraeg, ac i Gymro uniaith, yr oedd hyn yn ddifrifol. Yr unig ffordd i ddysgu tôn i'r rhan fwyaf o bobl oedd wrth y glust.

Ond dechreuwyd cynhyrchu rhyw fath o gerddoriaeth Gymreig yn weddol gynnar yn y ganrif, er mai cysegredig oedd bron y cwbl a gynhyrchwyd. Yr arloeswyr cyntaf oedd John Williams, Dolgellau (1740-1821); John Ellis, Llanrwst (1760-1834) a Dafydd Siencyn Morgan, Llechryd (1751-1844). Cyhoeddodd John Ellis ei gasgliad o donau Mawl i'r Arglwydd yn 1816. Cyfansoddodd hefyd lawer o donau ac anthemau, ac y mae ei dôn "Elliott" yn para yn ei blas hyd heddiw. Er bod ei lyfr yn glogyrnaidd iawn ac yn llawn gwallau, eto y mae'n deilwng o'n sylw am mai hwn oedd y casgliad cyntaf o'r fath a gyhoeddwyd yng Nghymru, ac ef yn ddiau a gychwynnodd y dôn gynulleidfaol Gymreig ar ei thaith urddaso drwy'r byd. Bu llawer o gasgliadau cyffelyb, megis Gamut a Brenhinol Ganiadau Seion Owen Williams o Fôn; Grisiau Cerdd Arwest John Ryland Harries o Abertawe (1823), Caniedydd Crefyddol William Owen o'r Drefnewydd (1828); Caniadau Seion Richard Mills (1840) a Salmydd Cenedlaethol Hafrenydd (1845).

Heblaw cyfansoddi a chyfaddasu tonau ar gyfer eu casgliadau, gwnaeth yr arloeswyr hyn waith addysgiadol pwysig trwy drefnu dosbarthiadau cerdd drwy'r holl wlad. Aeth Dafydd Siencyn Morgan, er enghraifft, o Lechryd, yng ngwaelod Sir Aberteifi, cyn belled â Sir Fôn er mwyn cynnal dosbarthiadau mewn cerddoriaeth. Gan fod cerddoriaeth Gymreig mor brin ar gyfer y dosbarthiadau, aeth yr athrawon hyn ati i gyfansoddi alawon at y pwrpas. Cyhoeddwyd y rhain yn ddiweddarach yn eu casgliadau gyda chyfarwyddiadau ynglŷn